'Rwyf yn arlunydd sy'n hanu o ac yn byw yn Eryri. Bum yng Ngholeg Celf Lerpwl yn y 1970au cynnar ac yn awr yn treulio fy holl amser yn paentio a darlunio.
Paentiadau: Prif ffynhonnell fy ysbrydoliaeth i’r peintiadau yw’r tirlun o’m cwmpas. Rwy’n gweithio yn reddfol a rhydd gan deimlo’r paent a’r marciau yn gyntaf. Does dim bwriad na phwrpas ar y cychwyn. Fel mae’r haenau o baent yn tyfu mae tirlun yn dechrau ymddangos, sy’n rhoi cyfle i mi ddechrau rheoli y peintio mewn ffordd mwy mesuradwy, nes bo’r llun yn dod i ddiweddglo naturiol. Rwy’n byw yn Eryri lle mae’r tirlun yn rhan anatod o bob dydd, a’r delweddau’n byw yn fy isymwybod. Credaf fod y rhain yn dod i’r wyneb drwy’r broses o beintio.
Y canlyniad yw darlun sy’n rhannol haniaethol yn defnyddio nifer o liwiau, gwead a marciau sy’n cyferbynu gyda rhannau o baent soled a haenog. Mae’r paent yn aml yn cael ei lyfnu i lawr i ddangos yr haen oddi tano, a rhannau eraill yn cael ei beintio drosto. Mae’r broses o greu haenau yn ychwanegu at gyfoeth y paent.
Dwi’n gweld tirlun, efallai mai siapiau rydych chi yn weld ond mi fydd y darlun yn rhoi rhywbeth gwahanol i bawb. Rydw i ond yn gobeithio y cewch fwynhad ohono.
Darluniau byw: Mae arlunio o'r corff yn sialens a her enfawr, rhai o faint, siap, thonyddiaeth yn ogystal a cheisio ei gyfleu yn ei amgylchedd. 'Rwyf yn defnyddio pensiliau lliw ar gyfer y gwaith yma gan roi haen ar ol haen o liw mewn dull egniol iawn i adeiladu'r darlun. Mae'r papur gwyn yn cael ei ddefnyddio i greu darnau golau'r corff a mwy o haenau lliw i roi siap a ffurf. Lliw yn y croen a'r ffordd mae'n adlewyrchu y lliw o'i gwmpas sy'n hudolus. Darganfod y lliwiau hyn a'i cyflwyno sydd yn gyrru y gwaith yn y darluniau yma.